Arolwg Polli:Nation
Arolwg cenedlaethol ar raddfa fawr yw Arolwg Polli:Nation. Bydd yn rhoi atebion i gwestiynau ymchwil pwysig am iechyd a statws pryfed peillio ledled y DU.
Gallwch gyfrannu at yr ymchwil hwn drwy fod yn wyddonydd dinesig, a gwneud arolwg o’r pryfed peillio yn eich ardal leol (meysydd ysgol, parc neu’r ardd)
Pam ddylwn i gymryd rhan?
Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i chi ddysgu am bryfed peillio ac am eich amgylchedd lleol. Cewch fynd allan i’r awyr agored, dysgu sgiliau newydd, a chyfrannu at ymchwil gwyddonol pwysig. Mae’r arolwg ar gyfer pawb, nid dim ond yr ysgolion Polli:Nation cofrestredig . Felly, hyd yn oed os na wyddoch chi eto’r gwahaniaeth rhwng Gwenyn Mêl a Phryfed Hofran, neu eich bod yn arbenigwr Lepidopteraidd mewn Gwyfynod a Gloÿnnod Byw, dyma’r arolwg i chi.
Does dim rhaid i chi gael profiad o flaen llaw i gymryd rhan yn yr arolwg; cafodd ei lunio ar gyfer pobl o bob oed, o bob cefndir a phob math o brofiad. Bydd Llyfryn yr Arolwg yn eich arwain drwy fethodoleg yr arolwg, gam wrth gam, ac os bydd angen cymorth pellach, gallwch gyfeirio at Ganllaw Cefnogi Arweinwyr Grŵp.
Sut fedra i gymryd rhan?
- Cam 1 – Lawr lwythwch ac argraffwch y dogfennau, Saesneg neu Gymraeg, yn ddelfrydol mewn lliw.
- Cam 2 – Dewch o hyd i ardal addas, a dechreuwch edrych am bryfed peillio
- Cam 3 – Rhowch wybod i ni beth ydych chi wedi ei ddarganfod, drwy lenwi ein ffurflen syml ar-lein
Beth sy’n rhaid i mi ei gael i gymryd rhan?
Lawr lwythwch yr adnoddau am ddim er mwyn cychwyn gwneud arolwg o’ch ardal leol
Os ydych chi’n gwneud yr arolwg ar ben eich hun, dim ond y Llyfryn Arolwg fydd angen arnoch chi. Os ydych chi’n gwneud yr arolwg fel arweinydd grŵp, lawr lwythwch y pedair dogfen os gwelwch yn dda.
pdf (1.09 MB)
pdf (1.32 MB)
pdf (426.59 KB)
pdf (223.55 KB)
Rydw i wedi cwblhau’r arolwg. Beth yw’r cam nesaf?
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau’r arolwg, anfonwch e i’r cyfeiriad rhadbost canlynol:
Freepost RSCH-CKYJ-HYYC, OPAL, Centre for Environmental Policy, Imperial College London, London, SW7 2AZ
Os byddwch chi’n gwella cynefin eich ardal arolwg, cofiwch wneud arolwg arall y flwyddyn ganlynol i’n cynorthwyo ni i greu darlun mwy eglur ar sut mae newid mewn cynefinoedd yn effeithio ar amlder y pryfed peillio.
Os ydych chi wedi mwynhau gwneud yr arolwg hwn, beth am wneud un arall – mae digonedd o arolygon OPAL eraill ar gael i chi.
- Dim ond eisiau nodi eich bod wedi gweld Rhywogaeth Arbennig?
Defnyddiwch y ffurflen isod i ddweud wrthym ni am y Pry Peillio Chwilio Rhywogaeth (Species Quest) rydych chi wedi cael cipolwg arno y tu allan i’ch ardal arolwg. Os yn bosibl, rhowch lun ohono hefyd.
- Cyflwynwch eich cipolwg Chwilio Rhywogaeth
Gweithgareddau estyn
pdf (1.02 MB)
pdf (913.21 KB)
Dolenni defnyddiol eraill:
Trwy lawrlwytho arolwg hwn rydych yn cytuno i’r telerau defnyddio y OPAL Arolwg Polli:Nation